2005, AUGUST

 

TOP DESIGNER USES COUNTY COMPANY

ONE of New York's most talked about fashion designers has his drawings brought to life at a Carmarthenshire knitwear company.
Family affair Corgi Knitwear has clinched a prestigious contract with up and coming Thom Browne.
The Ammanford-based business is working on his latest collection, which will be sold at exclusive stores in some of the world's fashion hotspots including London, New York, Paris and Japan.
Production director Chris Jones claims the worldwide interest comes down to the high quality of work they produce. Mr Jones said: “We tend to pick up a lot of designers as our customers through our reputation.”
Thom Browne sends sketches of his designs to Corgi. The drawings are translated into design patterns by Chris' sister and Corgi's design director, Lisa Wood. Samples are produced and returned to Thom before final orders are made. The business has been perating for over 100 years but was owned by outside hands for 10 years. Family members pulled together to re-secure ownership of the business eight years ago with one outside person. That partnership failed and another private person bought into the company.
Since then the company has won awards and is scooping orders from Ralph Lauren, Paul Smith and many more leading designer brands. Mr Jones said: “We do a lot of work for up and coming designers from the UK such as Tata Baka who are sisters and are doing very well. “Since we brought the company back to family ownership we have done really well. We are constantly praised for the way the company is growing and we are due for more expansion.”
The family is interviewing to fill four new jobs with another three posts coming up in the summer.


CYNLLUNYDD FFASIWN O FRI YN DEFNYDDIO CWMNI GWEUWAITH O SIR GÂR

CWMNI gweuwaith o Sir Gâr sy'n rhoi bywyd i ddarluniau un o gynllunwyr ffasiwn blaenllaw Efrog Newydd.
Busnes teuluol yw Corgi Knitwear ac mae wedi ennill cytundeb pwysig gyda Thom Browne, cynllunydd sydd ar i fyny yn ei faes. Mae'r cwmni sydd wedi'i leoli yn Rhydaman yn gweithio ar ei gasgliad diweddaraf, a fydd yn cael ei werthu mewn siopau dethol yn rhai o ganolfannau pwysicaf y byd ffasiwn gan gynnwys Llundain, Efrog Newydd, Paris a Japan.
Yn ôl y cyfarwyddwr cynhyrchu, Chris Jones, mae'r diddordeb o bedwar ban byd yn ganlyniad i'r gwaith o safon uchel y maen nhw'n ei gynhyrchu.
Fe ddywedodd Mr Jones: "Rydyn ni'n dueddol o ddenu llawer o gynllunwyr fel cwsmeriaid oherwydd ein henw da."
Mae Thom Browne yn anfon brasluniau o'i gynlluniau i Corgi.
Caiff y darluniau eu trawsnewid yn batrymau cynllun gan gyfarwyddwr cynlluniau Corgi a chwaer Chris, Lisa Wood. Caiff samplau eu cynhyrchu a'u hanfon yn ôl at Thom cyn anfon yr archeb derfynol. Mae'r busnes wedi bod ar waith ers dros 100 mlynedd ond roedd yn nwylo pobl o'r tu allan am 10 mlynedd.
Tynnodd Chris y teulu at ei gilydd i ailgydio ym mherchnogaeth y busnes wyth mlynedd yn ôl gydag un person o'r tu allan.
Methodd y bartneriaeth honno a phrynodd person preifat arall i mewn i'r cwmni. Ers hynny, mae'r cwmni wedi ennill gwobrau ac mae'n cael archebion gan Ralph Lauren, Paul Smith a llawer o frandiau cynllunwyr blaenllaw eraill.
Fe ddywedodd Mr Jones: "Rydyn ni'n gwneud llawer o waith ar gyfer cynllunwyr o'r Deyrnas Gyfunol sydd ar i fyny, fel Tata Baka sy'n chwiorydd ac yn gwneud yn dda iawn."
"Ers i ni ddod â'r cwmni yn ôl o dan berchnogaeth deuluol, rydyn ni wedi gwneud yn dda iawn. Rydyn ni'n cael ein canmol drwy'r amser am y ffordd y mae'r cwmni'n tyfu ac mae yna ehangu pellach ar y gweill."
Mae'r teulu'n cyfweld ar gyfer pedair swydd newydd ac fe fydd tair swydd arall ar gael yn yr Haf.

 

< back

 

© 2006 Corgi Hosiery Ltd